Pam'r ofnaf ddu gymylau'r nos, Ffo f'enaid egwan, tua'r groes, A gwel hi trosti oll yn waed: A dacw'r man mae llawenhau, Pan f'o cystuddiau'n amlhau, Y noddfa drefnwyd gan fy Nhad. Bu gruddfan caled arno Ef Nes crynu'r ddaear, duo'r nef, A rhwygo'r creigiau serth yn friw: Och'neidiodd Ef, dyoddefodd wae, Fel gallwn inau lawenhau Ac ymhyfrydu yn fy Nuw. Na foed i'm feddwl ddydd na nos, Ond cariad perffaith angeu'r groes, Hon alwaf mwy yn orsedd gras: Ar Galfari mae mainc y nef, Yn agos at ei groesbren Ef, Oddi yno rhoddir hedd i maes.William Williams 1717-91
Tonau [888D]: gwelir: Caed concwest ar Galfaria fryn |
Why shall I fear the black clouds of night, Flee, my weak soul, towards the cross, And see it for thee all blood: And there the place where is rejoicing, When afflictions be multiplying, The refuge ordained by my Father. He moaned so harshly That the earth trembled, heaven blackened, And the steep rocks broke to pieces: He groaned, he suffered woe, That I might rejoice And take delight in my God. Let me not think day or night, But about the perfect love of the death of the cross, This I call evermore the throne of grace: On Calvary is the bench of heaven, Close to his wooden cross, From there peace is given out.tr. 2020 Richard B Gillion |
|